Thanks everyone - I've transcribed this extract on Votty & Bowydd - without too many mistakes, I hope. A translation would be of interest to everyone, I think. I've only got a photocopy of a few pages - just the quarry bits, however I'm sure this is the second version, written in 1882 by G.J.Williams and which was based on the first of 1870 (Ffestinfab). I dont mind transcribing if someone doesn't mind translating!
Hanes Plwyf Ffestiniog
LORD- “The Votty and Bowydd Slate Quarry Company, Limited:”-
Y mae y chwarel hon yn agos o ran safle ac adeg dechreuad ei gweithio i’r Diphwys. Fodd bynag, gweithiwyd y ddwy heb gyfreithio o gwbl yn nghylch y terfynau, a phan fu unwaith yn lled anhawdd cytuno, galwyd rhai o’r hen drigolion I ddweyd yr hyn a wyddent am y terfynau, a dibenwyd mewn heddwch. Decreuwyd gweithio yn y fan hon gan Arglwydd Newborough (tad y presenol), oddiwrth yr hwn y galwyd y gwaith yn “Chwarel Lord.” Dywed rhai fod hon wedi ei hagor o flaen y Diphwys. Os felly, rhoddwyd hi I fyny am le mwy cyfleus yr ochr arall i’r Ceunant.
Yn y flwyddyn 1801, ail ddechreuwyd gweithio yma pan oedd masnach yn bywiogi ar ol caledi y flwyddyn 1800; ond buan y gadawyd hi. Pan oedd wedi ei gorchuddio a brwyn yn 1823, dechreuwyd ei gweithio gan frawd yr Arglwydd Newborough presenol. Er fod y llechfaen yn hynod hawdd ei gweithio, a dim ond ychydig o waste yn nglyn a hi, nid oedd yn talu ond ychydig i’w pherchenog, yr hwn o ganlyniad a’i gwerthodd yn 1828 i Mri. Roberts – brodyr o Gaernarfon. Yr oedd masnach yn farwaidd iawn pan gymerodd y boneddigion hyn y chwarel, a dichon mad oeddynt hwythau yn ei gweithio yn y modd doethaf. Yn 1830 siriolodd masnach, newidiwyd y goruchwylwyr, ac aeth y chwarel yn malen yn lled dda am ysbaid. Yn mhen rhai blynyddoedd ymunodd y perchenogion hyn a phersonau o Liverpool, mewn masnach, aethant yn feth-dalwyr (1833), trwy yr hyn y collodd y gweithwyr lawer o’u harian.
Yn mehn rhai misoedd, cymerwyd y chwarel gan Edwin Shelton, Ysw., a J.W.Greaves, Ysw. Gweithiwyd hi yn llwyddianus am flynyddau, hyd nes ymddangosai bron wedi ei “gweithio adref.” Bu Mr. Shelton farw; cymerodd Mr.Greaves ei ran o’r chwarel, a gweithiodd hy hyd nes y death y bryd-les i fyny.
Decheuwyd gweithio chwarel arall ar dir Arglwydd Newborough, y agos I Hafod-dy, Cwmbowydd. Cymerodd rhai o’r chwarelwyr y lle I’w weithio ar ol i’r fasnach lechau ddyfod yn llewyrchus; ond gwerthwyd y lle hwn yn gystal a “Lord,” i Mr Percival, a gweithid hwy ganddo dan yr enw “Votty and Bowydd.” Gyrodd Mr.W.Rowlands lefelydd drwy y “caled” a darganfyddodd “Y llygad newydd,” yr hwn a roddodd bwysigrwydd ar Chwarel “Lord,” ac a fu yn foddion adfywiad i amryw o’r chwarelau eraill.
Yn 1875, decreuwyd gweithio y chwarel gan gwmni newydd terfynol, gyda chyfalaf o £80,000 o dan yr enw “The Votty and Bowydd Slate Quarries Company Limited.”
Y goruchwylwyr:-
Dan Arglwydd Newborough:- Mri. George Peters; John Hughes; a Robert Williams, yr hawn oedd yr un pryd yn oruchwyliwr yn Llanllyfni.
Dan y brodyr Roberts:- Mri. John Hughes; Robert Jones; ei fab Thomas Jones, Llenyrch-y-moch; a David Jones, wedi hyny o Gwmorthin.
Dan Mri. Shelton a Greaves:- Mri. Hugh Jones, Coedmadog (mab Mr.John Hughes, uchod); Owen Jones; ac Owen Roberts, presenol of Gaernarfon.
Dan Mr. Percival:- Mr William Rowlands
Dan y Limited Company:- Mri. Walker; Rowlands; a T.G.Jenkins.
The map is the territory - especially in chain scale.